Lleoliad:
Neuadd Huw Owen, Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor
Dyddiad: Dydd Gwener, 14 Gorffennaf 2017
Amser: 10.05 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4480
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Russell George AC John Griffiths AC Mike Hedges AC Huw Irranca-Davies AC Bethan Jenkins AC Dai Lloyd AC Nick Ramsay AC David Rees AC David J Rowlands AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru Huw Morris, Llywodraeth Cymru Gwenllian Roberts,, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Kath Thomas (Ail Glerc) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd y Prif Weinidog a'i swyddogion i'r cyfarfod.
1.1 O ystyried Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a gyhoeddwyd ar 13 Gorffennaf, gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog am ei Ddatganiad ac ar oblygiadau'r Bil i Gymru.
1.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog ynghylch dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran adeiladu economi gref. Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r Pwyllgor ynghylch:
· Pwy fyddai'n cymryd yr awenau i fynd â'r fasnachfraint rheilffyrdd yn ei blaen pe bai'r broses gaffael yn mynd i drafferthion;
· Cefnogaeth bellach ar gyfer y rhai sydd am greu ffynonellau newyddion newydd;
· Ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru annog a chefnogi staff medrus y GIG sy’n dod i ddiwedd eu gyrfa i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y GIG yng Nghymru ac i drosglwyddo eu profiad, eu gwybodaeth a'u sgiliau cyn iddynt ymddeol.
Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn flaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.